Rydym
ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru i reoleiddio Sefydliadau Lles
Anifeiliaid a deddfu bod holl sefydliadau achub anifeiliaid yn
bodloni gofynion gorfodol yn unol â’r adroddiad a
luniwyd gan Weithgor Sefydliadau Lles Anifeiliaid Rhwydwaith Lles
Anifeiliaid Cymru ym mis Hydref 2012. Mae angen i Lywodraeth Cymru
roi deddfwriaeth ar waith yng Nghymru o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid
(2006), i ddiogelu anifeiliaid rhag esgeulustod a cham-drin.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae mwy a mwy o anifeiliaid yn dioddef cam-drin, esgeulustod ac yn
cael eu bridio mewn sefydliadau heb eu rheoleiddio sy’n
hysbysebu ei hunain yn Ganolfannau Achub, ac rydym yn galw ar
Gynulliad Cymru i ddeddfu o dan Ddeddf Anifeiliaid 2006 i geisio
rhoi’r gorau i hyn.
Prif ddeisebydd: Lisa Winnett
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013
Nifer y llofnodion: 265